
Dadansoddwr Digyffwrdd
Rydym wedi datblygu dadansoddwr cryno a all bennu crynodiad, neu wasgedd rhannol, sylwedd sydd mewn cymysgedd o nwyon neu sydd wedi'i hydoddi mewn hylifau.
Mantais yr offeryn yw nad oes angen cymryd samplau o'r hylif sydd i gael ei ddadansoddi.
Mae'n arbennig o werthfawr ar gyfer gwaith dadansoddi mewn hylifau lliw, er enghraifft gwaed neu wrin. Mantais peidio â gorfod cael samplau yw nad oes rhaid defnyddio tapiau na chwiliedyddion.
Mewn gwaed, gall tapiau neu chwiliedyddion o'r fath weithredu fel cnewyllyn ar gyfer tyfu clotiau a allai beryglu bywyd. Mae offerynnau cyfredol yn mesur ocsigen a/neu garbon deuocsid, ond gellir eu haddasu'n rhwydd i fesur sylweddau eraill o ddiddordeb.
Dangosir offeryn prototeip, sy'n cynnwys yr holl elfennau ffotoelectronig angenrheidiol. Os bydd angen, gall yr offeryn gael ei leihau i ffracsiwn maint yr offeryn a ddangosir.