Blood Pump
Pwmp Gwaed

Mae pwmp gwaed newydd, ysgafn Haemaflow yn darparu llif curiadol. Mae'r llif curiadol yn cynnig gwell darlifiad i'r meinweoedd, ac mae hyn yn lleihau'r problemau clinigol sy'n gysylltiedig â'r pympiau llif parhaus cyfredol.

Coastal Communities Fund

Er enghraifft, dangoswyd bod llif parhaus yn niweidio'r falf aortig ac yn arwain at syndrom von Willebrand caffaeledig. Gall y cyflwr olaf hwn achosi gwaedu difrifol. Mae'r pwmp Haemaflow yn bwmp dadleoli positif, ac felly, yn wahanol i bympiau allgyrchol, ni chaiff y curiadedd ei beryglu wrth bwmpio gwaed trwy ocsigeneiddiwr.

Gellir addasu'r dyluniad i nifer o ddibenion, gan gynnwys Cynnal Bywyd yn Allgorfforol (lle cynhelir cleifion nad yw eu hysgyfaint yn gweithredu'n iawn trwy ocsigeneiddio'r gwaed yn uniongyrchol), Dargyfeirio'r Galon a'r Ysgyfaint (lle cynhelir cleifion yn llwyr yn ystod llawdriniaeth ar yr ysgyfaint a'r galon), a darlifo Organau Trawsblannu (lle cynhelir yr organau i'w trawsblannu mewn cyflwr gweithredol iach wrth iddynt gael eu profi ar gyfer addasrwydd ac yna'u trawsblannu). Mae'r dyluniad cryno yn caniatáu hyblygrwydd o ran gosod y pwmp yn y safle mwyaf cyfleus i'r claf a'r staff clinigol. Er enghraifft, o gael ei osod ar y claf, gall leihau hyd y tiwbin a hwyluso symudedd.

Ar hyn o bryd, cefnogir y datblygiad gan Gronfa Cymunedau'r Arfordir ar gyfer Cymru.