Mae'r priodweddau hyn yn cynnwys mesur o dueddiad gwaed i geulo. Mae'r mesurau hyn yn ein galluogi i optimeiddio'r defnydd o wrthgeulyddion (ar gyfer pobl y mae eu gwaed yn rhy barod i geulo) a cheulyddion (ar gyfer y bobl hynny nad yw eu gwaed yn ceulo).
Dylai'r ddyfais hefyd ddarparu marciwr cynnar ar gyfer presenoldeb Sepsis. Dylai'r gallu i nodi tebygolrwydd o Sepsis, heb orfod cymryd samplau a'u hanfon i'r labordy, ddarparu arf ychwanegol wrth drin pobl sydd â'r clefyd marwol hwn.